top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 0300 123 66 88
 
Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy I mi a fy nheulu Pam dewis Teleofal?
start content

Pam dewis Teleofal?

Gall y system Teleofal fod yn opsiwn arall ar gyfer defnyddwyr system sy’n cael gofal dwys, a chynyddu eu hyder i fod yn annibynnol yn eu cartref eu hunain.

Beth yw manteision Teleofal?

  • Hawdd ei sefydlu
  • Gwasanaeth monitro ar gael 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn.
  • Hybu annibyniaeth
  • Lleihau risg
  • Darparu tawelwch meddwl i deuluoedd a gofalwyr

Pwy allai elwa?

“Helpwch fi i fyw fy mywyd fel y mynnaf, trwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol i fy nghefnogi.”

  • Pobl hŷn sy’n byw ar ben eu hunain neu yn ynysig
  • Pobl ag anableddau neu gyflyrau cronig e.e. cyflwr ar y galon, perygl o godymau neu ag amhariadau
  • Pobl ddiamddiffyn neu rai sy’n pryderu ynghylch diogelwch
  • Teulu a gofalwyr i roi sicrwydd a thawelwch meddwl iddynt

Synwyryddion Teleofal eraill sydd ar gael

Gall y system Teleofal alluogi defnyddwyr gwasanaeth i beidio â gorfod cael gofal mwy dwys, a chynyddu eu hyder i fod yn annibynnol yn eu cartref eu hunain.

Synwyryddion Amgylcheddol

Synwyryddion Llifogydd.

Gall Synwyryddion Amgylcheddol sicrhau eich diogelwch yn y cartref trwy ganfod mwg neu garbon monocsid.

Synwyryddion Gofal Personol

Gall Synwyryddion Gofal Personol megis synwyryddion gadael eiddo helpu os oes gennych ddementia ac o bosib wedi crwydro allan o’ch cartref.

Synwyryddion epilepsi a all ein hysbysu os ydych yn cael ffit.

Synwyryddion codymau neu synwyryddion gwely / cadair i’n hysbysu os ydych wedi cael codwm.

Mae’r synwyryddion hyn yn cysylltu’n ddiwifr i’r uned a bydd yn hysbysu gweithwyr bod angen cymorth.

Gellir cysylltu nifer o’r synwyryddion hyn i’r uned ar yr un pryd i ddarparu pecyn wedi’i deilwra a all gefnogi eich anghenion yn llawn.

Faint mae’n ei gostio?

Mae Teleofal yn rhoi tawelwch meddwl am gyn lleied â 50c y dydd.

Mae’r Offer Teleofal yn cael ei gyflenwi gan eich awdurdod lleol. Mae’r prisiau yn amrywio yn ôl bob ardal awdurdod lleol. Gellir talu’r awdurdod lleol bob mis trwy ddebyd uniongyrchol. Mae mwy o wybodaeth gan ein sefydliadau partner ar gael isod. Cliciwch y ddolen ar gyfer eich ardal awdurdod lleol.

Eithriad rhag TAW

Os oes gennych salwch cronig neu’n anabl nid oes rhaid i chi dalu TAW ar gyfer y gwasanaeth hwn. Bydd angen i chi lenwi ffurflen rhyddhad TAW fer sydd ar gael gan eich tîm Teleofal lleol. I gael rhagor o wybodaeth am Eithriad rhag TAW ewch i wefan Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Sut ydw i'n cael mynediad i'r gwasanaeth?

I wneud cais am offer Teleofal llenwch y ffurflen hunan-atgyfeirio Teleofal, a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r tîm Teleofal ar gyfer eich ardal. Neu gallwch ffonio Galw Gofal ar 0300 123 66 88 ddydd neu nos.

Sut allaf gael mwy o wybodaeth?

Rydym yn gweithio gyda’r cynghorau lleol canlynol ar hyn o bryd trwy gymryd eu galwadau teleofal ar ôl gosod eich offer:

Preswylwyr Ynys Môn: Gwasanaeth Teleofal Ynys Môn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: Teleofal Bridgelink

Preswylwyr Conwy: Gwasanaeth Teleofal Conwy

Preswylwyr Sir Ddinbych: Gwasanaeth Teleofal Sir Ddinbych

Preswylwyr Gwynedd: Gwasanaeth Teleofal Gwynedd

Preswylwyr Wrecsam: Gwasanaeth Teleofal Wrecsam

end content