Canllawiau ar Offer Teleofal
Rhwng rŵan a Rhagfyr 2025 bydd yr holl unedau teleofal yn cael eu gosod a'u huwchraddio i unedau digidol, gan roi gwasanaeth o ansawdd gwell i chi.
Pecyn Sylfaenol
Gall unrhyw un hunan-atgyfeirio ar gyfer pecyn sylfaenol.
Uned Life Line VI
Nodiadau Atgoffa / Recordiad Llafar – fel nodiadau atgoffa am feddyginiaeth.
Gellir gosod gwasanaeth monitro tymheredd – ond rhaid gofyn amdano.
Synhwyrydd mwg
Rhaid cael un ar gyfer pob llawr yn yr eiddo.
Mae angen caniatâd landlordiaid os nad yw eiddo mewn perchnogaeth breifat.
Cadwyn MyAmie
Gellir ei gwisgo o amgylch yr arddwrn neu’r gwddf.
Os yw medrusrwydd yr unigolyn yn wael, yna gellir gofyn am fotwm hawdd ei wasgu.
Saff Allweddi
Mae ambell i saff allweddi wedi'u gosod y tu allan i'r eiddo i ganiatáu mynediad brys. Dim ond Galw Gofal sy’n cadw cofnod o’r rhif.
Mae angen caniatâd landlordiaid os nad yw eiddo mewn perchnogaeth breifat.
Synwyryddion Ychwanegol
Synhwyrydd Gwely
Mae dau fath - dros y fatres neu dan y fatres. Ni ellir eu defnyddio ar welyau trydan neu broffil.
Gellir gosod amseryddion ar welyau – e.e. pan nad yw’r unigolyn wedi dychwelyd i’r gwely o fewn 15 munud. Rhaid i’r sawl sy’n atgyfeirio wneud cais am hyn.
Synhwyrydd drws:
Gall fod yn synhwyrydd wedi'i amseru neu wedi’i osod â llaw gyda switsh 'ymlaen / i ffwrdd'. Gellir ei gysylltu â Lifeline neu Care Assist.
Rhaid i'r sawl sy’n atgyfeirio ofyn am PIR os oes angen amser absennol. Nodwch y math o ddrws y dylid ei osod arno wrth atgyfeirio.
Synhwyrydd PIR
Rhaid gwneud cais amdano os oes angen amser absennol ar gyfer synhwyrydd drws – e.e. dim symudiad o fewn 10 munud ar ôl agor drws = gwneud galwad.
Gellir ei ddefnyddio fel synhwyrydd rhithwir, synhwyrydd anweithgarwch, larwm tresmaswyr.
Synhwyrydd Cadair
Ni ellir ei ddefnyddio ar gadeiriau trydan gorwedd a chodi. Gellir gosod amseryddion – e.e. pan nad yw’r unigolyn wedi dychwelyd i’r gadair o fewn 15 munud.
Rhaid i’r sawl sy’n atgyfeirio wneud cais am hyn.
Synhwyrydd Llifogydd
Yn wych ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o adael tapiau’n rhedeg.
Gellir ei osod ar y llawr wrth ymyl sinc neu fath.
Rhaid i weithiwr proffesiynol ofyn am synwyryddion ychwanegol.
Synhwyrydd Co2
Mae angen un ar gyfer pob ystafell sydd â theclyn nwy e.e. boeler, tân nwy, popty nwy a thân coed.
Synhwyrydd Tymheredd Eithafol
Yn monitro ar gyfer tymheredd uchel ac isel iawn a chynnydd cyflym mewn tymheredd. Caiff ei osod ar y nenfwd fel arfer.
Care Assist
- Gall gefnogi hyd at 86 o wahanol synwyryddion
- Mae ganddo ystod o hyd at 200m
- Rhaid ei wefru am 2 awr
- Yn ddelfrydol ar gyfer gofalwyr / rhieni
- Gellir cysylltu pob synhwyrydd â galwr
Vibby
- Yn canfod codymau yn awtomatig ac yn gweithredu fel cadwyn arferol
- Dim ond codwm mawr y bydd yn ei ganfod
- 100% gwrth-ddŵr - gellir ei gwisgo yn y gawod
- Mae ganddo fotwm canslo (botwm llwyd bychan)
- Gellir ei ganslo drwy ddal cledr eich llaw dros yr wyneb am 10 eiliad
Offer a Aseswyd yn Arbenigol
Rhaid i'r holl offer a restrir isod gael eu hasesu gan Therapydd Galwedigaethol / Therapydd Galwedigaethol Cynorthwyol Teleofal. Dylai gweithwyr proffesiynol gyfeirio at Teleofal am ymweliad ar y cyd.
Dyfais GPS ôl troed
- Olrhain GPS a rhybuddion signal isel
- Cyfathrebu llais dwy ffordd
- Rhybuddion GEO fence - drwy neges destun
- SIM crwydro llawn - i ddefnyddio'r signal symudol cryfaf yn yr ardal honno.
- Cadwyn i’w gwisgo - cylch allweddi neu gortyn gwddf
- Gellir ei gysylltu â Galw Gofal
- Rhybuddion batri isel
- Gwasanaeth olrhain gwefan byw ar gael.
Dyfais Buddi GPS
Mae gan Buddi yr un nodweddion â'r ôl troed ond mae'n cynnwys dau ddarn o offer. Breichled a chlip. Y freichled yw'r synhwyrydd codwm ac mae'r clip yn gweithredu fel y 'ffôn' a’r GPS.
Canary
Defnyddir Canary fel offeryn asesu i fonitro symudiadau unigolion. Caiff y system ei gosod gyda synwyryddion bach, a chesglir data ar y wefan i bennu patrwm symudiad unigolion. Mae Canary yn ddelfrydol ar gyfer asesu pecyn gofal unigolion heb fod yn ymwthiol nac yn amddifadu eu preifatrwydd.
Synwyryddion Epilepsi
Mae Teleofal yn darparu ystod o synwyryddion Alert It Epilepsy i weddu i'r math o drawiadau a gaiff yr unigolyn. Dilynwch y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth:- https://alert-it.co.uk/product-selector/