Gwasanaeth gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain - Galw Gofal yw’r darparwr gwasanaeth teleofal digidol llawn cyntaf yng Nghymru
a sefydlwyd yn 2011 pan ffurfiodd Cynghorau Bwrdeistref Sirol Conwy, Ynys Môn a Gwynedd bartneriaeth i ddarparu gwasanaethau teleofal blaenllaw yn y diwydiant i breswylwyr yn y rhanbarth a thu hwnt.
Cyn hyn roeddem yn cael ein hadnabod fel Care Connect gyda dros 30 mlynedd o brofiad, ac yn gyson dros y blynyddoedd rydym wedi bod yn cyflawni’r lefel uchaf o achrediad NSI a TSA, gan gynnwys safon ARC Aur NSI sydd yn ein gwneud yn un o’r darparwyr parhad busnes fwyaf gwydn yn y DU.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chefnogaeth eithriadol i’n cwsmeriaid, yn eu galluogi i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyn hired â phosib. Mae ein gwasanaethau monitro galw y Tu Allan i Oriau a gwasanaeth monitro Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun y mae nifer o gymdeithasau tai a Chynghorau Sir yn eu defnyddio yn rai o’n cryfderau allweddol fel darparwr gwasanaeth.
Rydym yn deall y pwysigrwydd o ddarparu cefnogaeth o amgylch y cloc i’n cwsmeriaid a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi, yn saff ac yn ddiogel drwy’r amser. Yn Galw Gofal, mae ein cwsmeriaid yng ngwraidd pob dim rydym yn ei wneud. Rydym yn credu mewn trîn pob cwsmer gyda pharch, urddas a thrugaredd, a darparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion unigol, a sicrhau ymateb cyflym ac effeithiol mewn argyfwng neu ar unrhyw adeg pan fyddwch angen ein cefnogaeth.
Mae ein tîm o weithwyr hyfforddedig a phrofiadol wedi ymrwymo i ddarparu’r safonau uchaf o ofal a chefnogaeth i’n cwsmeriaid, a’u helpu i gynnal eu hannibyniaeth ac ansawdd bywyd.
Yr hyn rydym yn ei wneud
Mae Galw Gofal yn darparu ystod o wasanaethau teleofal i unigolion a theuluoedd, a monitro galwadau y Tu Allan i Oriau a monitro gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain i sefydliadau.
Nod Galw Gofal yw bod yn ddarparwr gwasanaeth teleofal blaenllaw yng Nghymru, yn darparu gwasanaethau i bobl a busnesau ar draws y DU, yn cynnig gwasanaethau dwyieithog 24/7, yn defnyddio technoleg digidol ddiweddaraf i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y gofal a chefnogaeth orau bosibl ac yn gallu cael mynediad at gymorth y maent eu hangen unrhyw bryd.
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys ymateb brys, monitro personol, a rheoli meddyginiaeth, pob un wedi dylunio i helpu ein cwsmeriaid fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gyda thawelwch meddwl, a bod sefydliadau yn rhoi pwynt cyswllt i’w defnyddwyr gwasanaeth pryd bynnag mae problem.
Mae ein gwasanaethau ar gael i unigolion, teuluoedd, busnesau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r gwasanaethau brys i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn yr ansawdd gorau posibl o ofal.
Yn Galw Gofal, rydym yn deall pwysigrwydd o ddarparu amgylchedd diogel i’n cwsmeriaid a’n gwasanaethau teleofal, monitro galwadau y tu allan i oriau a monitro gweithio ar eu pen eu hunain, a dyma ychydig o bethau yr ydym wedi ymrwymo i gyflawni hyn. Beth sydd yn ein gwneud yn wahanol i ddarparwyr eraill yn y diwydiant yw ein harbenigedd, ein hymrwymiad i wasanaethau dwyieithog ac ymroddiad i ddarparu gwasanaeth wedi’i bersonoli ac ymatebol sydd yn bodloni anghenion unigryw pob un o’n cwsmeriaid.
Yr hyn allwn ni ei gynnig
content
Pendant Alarm Service (adnabyddir fel careline neu lifeline hefyd) yw’r gwasanaeth larwm personol fwyaf poblogaidd i ddefnyddwyr teleofal. Mae wedi’i gysylltu â llinell ffôn, mae’r larwm gwddf yn actifadu mewn argyfwng, ac felly’n rhybuddio aelod o’n tîm monitro 24/7. Mae’n eich cysylltu gydag un o’n gweithredwyr hyfforddedig, a fydd yn eich helpu drwy asesu’r sefyllfa a chymryd y camau priodol; megis cysylltu ag aelodau o’r teulu, neu wasanaethau brys. Mae ein gweithredwyr galw bob amser yn aros ar y llinell tan fydd help wedi’i drefnu.
content
Rydym yn darparu gwasanaeth monitro sydd yn gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Os yw larwm personol neu synhwyrydd cysylltiedig yn cael ei actifadu, bydd galwad yn cael ei wneud yn awtomatig i’n Canolfan Monitro 24 awr lle mae gweithredwr hyfforddedig yn ateb.
Cyswllt uniongyrchol i’r gwasanaethau brys:
Beth bynnag yw’r argyfwng h.y. wedi cwympo, tân, llifogydd; ymyrrwr, argyfwng meddygol, byddwn yn cysylltu gyda’r gwasanaethau brys yn gyflym ar eich rhan.
content
Pan fyddwch chi’n cael ein gwasanaeth larwm gwddf byddwch chi mewn dwylo diogel a gallwch chi ein cyrraedd ni trwy wasgu’r botwm 24/7.
Hefyd gallwn ddarparu cefnogaeth ychwanegol megis synhwyrydd i ganfod mwg, llifogydd, nwy, carbon monocsid neu dymheredd eithafol yn eich cartref.
Gall y synwyryddion hyn ein rhybuddio’n awtomatig, yn ogystal â chi. I gael tawelwch meddwl, gall y synhwyrydd synhwyro os yw rhywun yn codi o’r gwely neu gadair, neu wedi gadael y tŷ, a hynny os nad yw’n ddiogel iddynt wneud ar eu pen eu hunain.
Mae hwn yn ddefnyddiol os yw rhywun yn dioddef colli eu cof. Mae nifer o ‘rybuddion’ defnyddiol eraill er enghraifft yn synhwyro cwymp, epilepsi, rheoli meddyginiaeth neu alwyr ffug/ botymau panig.
content
Hefyd rydym yn cynnig galwadau lles dyddiol i wirio eich lles, yn eich atgoffa i gymryd meddyginiaeth neu gynnig tawelwch meddwl i ofalwyr a theuluoedd.
Os ydych yn methu ag ateb yna bydd y gweithredwr yn dilyn protocolau i drefnu cymorth.
Mae’r gwasanaeth hwn yn ffordd o ddarparu sicrwydd i chi a’ch teulu yn ddyddiol. Mae amrywiaeth o wahanol wasanaethau i chi ddewis ac maent i gyd yn cyflenwi ein gwasanaethau monitro argyfwng.
content
Pan fydd eich busnes yn cau am y dydd, ar benwythnos, gŵyl y banc, diwrnodau hyfforddi neu barhad busnes, byddwn yn derbyn y galwadau gan eich defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau beth bynnag yw eu hanghenion a bod ganddynt rywun i gysylltu 24/7.
Yna byddwn yn brysbennu’r alwad i bennu’r lefel gofynnol o gefnogaeth neu gyngor y mae’r galwr eisiau.
content
Os ydych chi neu unrhyw un o’ch gweithwyr yn gweithio ar eu pen eu hunain, gallwn fonitro eu diogelwch drwy’r dydd a nos os ydynt yn mynychu drwy alwadau ffôn a thechnoleg GPS.
content
Gallwn gysylltu o bell â llawer o rwystrau meysydd parcio er mwyn siarad â chwsmeriaid a delio â phroblemau gyda gyrwyr. Gallwn hefyd agor y rhwystr sy’n atal eich busnes rhag gorfod cael rhywun ar y safle.