Tystebau
Clwyd Alyn

“Mae Galw Gofal yn sefydliad sydd wedi hen ennill ei blwyf, sy’n cynnig gwasanaeth ateb galwadau brys y tu allan i’n horiau gwaith. Mae gennym berthynas waith â Galw Gofal ers blynyddoedd lawer a gyda’n gilydd rydym wedi datblygu gwasanaeth amhrisiadwy i’n defnyddwyr gwasanaeth, gan alluogi i’w diogelwch a’u lles fod wrth wraidd popeth a wnawn”
North Wales Housing

“Mae Galw Gofal yn rhoi tawelwch meddwl mawr i’n preswylwyr a’u teuluoedd pan nad yw ein staff yn gweithio. Maent yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi, sy’n hanfodol bwysig i bobl hŷn. Mae’r gwasanaeth yn werthfawr i staff hefyd, gan ei fod wrth gefn os bydd tarfu ar wasanaethau systemau mewnol ac atgyweiriadau a galwadau brys. Mae staff bob amser yn gwrtais a chyfeillgar, sy’n bwysig oherwydd ei fod yn galluogi’r rhai sy’n cael y gwasanaeth i aros yn eu cartrefi a’u cynefin eu hunain. Mae hyn yn golygu cymaint i lawer”.
Cyngor Sir Ddinbych

"Mae Galw Gofal yn darparu gwasanaeth rhagorol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’n Cwsmeriaid Teleofal. Mae ymarferwyr, dinasyddion a’u teuluoedd yn troi at Galw Gofal am sicrwydd a rhywfaint o ddiogelwch i sicrhau eu bod yn gwybod y byddai larwm yn cael ei chanu pe bai problem pan fydd unigolyn gartref ar eu pen eu hunain am gyfnodau yn ystod y dydd neu’r nos. Mae’r staff yn Galw Gofal yn darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid, maen nhw’n wybodus iawn, maen nhw wedi helpu llawer iawn o bobl."