Ein cenhadaeth, gwerthoedd a gweledigaeth
Ein Gweledigaeth
Darparu gofal a chefnogaeth ragorol i deuluoedd a busnesau drwy dechnoleg Teleofal arloesol a gwasanaethau ardderchog y tu allan i oriau swyddfa ac i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain. Rydym yn ymdrechu i hyrwyddo annibyniaeth, tawelwch meddwl a lles i’n cleientiaid, gan ymateb yn gyflym i’w holl anghenion. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu a’u bod yn cael cyfle i dyfu a datblygu, fel y gallant ddarparu gofal o’r ansawdd gorau.
Ein Gwerthoedd
- Rydym yn dosturiol
- Rydym yn barchus
- Mae gennym onestrwydd
- Rydym yn arloesol
- Rydym yn gweithio fel tîm
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yng ngwasanaethau Teleofal a monitro galwadau Galw Gofal yw bod yn brif ddarparwr yng Nghymru a thu hwnt ar gyfer gwasanaethau Teleofal 24/7, gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa ac i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain. Byddwn yn adnabyddus am ein gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, ein datrysiadau arloesol, amseroedd ymateb i alwadau ac ymrwymiad i fodlonrwydd gweithwyr.
Ein nod yw creu diwylliant o ragoriaeth, ble bydd ein cleientiaid yn gallu bod yn hyderus y byddant yn cael y gofal gorau bosibl, a ble gall ein gweithwyr fod yn falch o wasanaeth sy’n gwerthfawrogi eu cyfraniadau ac yn buddsoddi yn eu llwyddiant.
Byddwn yn parhau i addasu ac esblygu ein gwasanaethau i fodloni anghenion sy’n newid gan ein cleientiaid a’r gymuned ehangach, ar gyfer dyfodol cryf a chynaliadwy, ond wrth aros yn driw i’n gwerthoedd craidd sef tosturi, parch a gonestrwydd.