top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 0300 123 66 88
 
Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy I mi a fy nheulu Beth rydym ni'n ei gynnig
start content

Beth rydym ni'n ei gynnig

Hyrwyddo lles ac annibyniaeth pobl

Yn Galw Gofal rydym yn darparu gwasanaethau galw argyfwng dwyieithog Cymraeg/ Saesneg 24/7 i helpu diogelu pobl hŷn a diamddiffyn yn eu cartrefi eu hunain neu yn y gweithle. Mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad o Deleofal, darpariaeth gwasanaethau monitro galwadau gweithio ar eich pen eich hunain a thu allan i oriau.  Rydym yn cynnig gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar gwsmer sydd yn hyrwyddo diogelwch ac annibyniaeth. Mae ein gwasanaethau ar gael ledled y DU.

Wedi’u dylunio i’ch helpu chi

Mae ein canolfan derbyn rhybuddion wedi’i chreu’n bwrpasol yn unol â chod ymarfer BS 8591 ar gyfer canolfannau o bell yn cael signalau o systemau larymau. Rydym yn gweithredu dau safle yn Ynys Môn a Chonwy. Mae’r ddau safle yn cael staffio’n llawn ac yn gallu gweithio ar yr un pryd neu’n annibynnol o’i gilydd a sicrhau monitro galwadau 24/7 di-dor. Mae ein tîm hyfforddedig yn gweithio i godau ymarfer cyfyng ar gyfer gofal cwsmer a chyfrinachedd data. Mae’r holl staff yn cael sgriniad diogelwch yn unol â BS 7858 yn sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn cael gwasanaeth gydag uniondeb o’r radd flaenaf.

Mae ein gwasanaeth wedi’i ddiogelu at y dyfodol sy’n caniatáu cyfleoedd ar gyfer arloesi gyda defnyddio gofal galluogi technoleg i gefnogi annibyniaeth a lles.  Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a chyflenwyr diwydiant i sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf ar gael a all gael ei deilwra i weddu eich anghenion unigol.

Rydym yn defnyddio’r system diweddaraf ymdrin â galwadau neu alwadau digidol o ystod eang o dechnoleg gynorthwyol a ddefnyddir i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol. Mae’r system yn gydnaws gyda’r holl brotocolau analog presennol yn ogystal â phrotocolau digidol SCAIP a NOW IP. 

Gwasanaeth y gallwch ymddiried ynddo

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r lefel uchaf o ofal cwsmer a gwneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn parhau yn ddiogel ac yn iach drwy’r amser. Mae gennym ddiwylliant ofalu gadarnhaol o fewn y tîm a bob amser yn gweithio’r gorau o fewn ein gallu sydd yn cael ei adlewyrchu yn ein gweledigaeth a gwerthoedd craidd.

Ein Gwerthoedd

  • Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith
  • Rydym yn deg â phawb
  • Rydym yn arloesol
  • Rydym yn gweithio fel tîm

Ein Gweledigaeth

‘Darparu gwasanaeth safonol, effeithiol sy’n arweinydd y farchnad o safbwynt cynnal annibyniaeth, lles a diogelwch pobl gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n cysylltu â gwasanaethau monitro ac ymateb i alwadau ar ran ein cwsmeriaid’

Sicrhau Ansawdd

Mae ansawdd yn bwysig i’r busnes hwn gan ein bod yn gwerthfawrogi ein cwsmeriaid. Ymdrechwn i ddarparu ein cwsmeriaid gyda gwasanaethau sy’n bodloni ac yn rhagori eu disgwyliadau.

Rydym yn aelod o TSA, y corff diwydiant ar gyfer Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC), yn cynrychioli rhwydwaith benodol ddiwydiant fwyaf yn Ewrop sydd yn gyrru ansawdd ar draws y sector gyhoeddus a’r sector breifat drwy ei God Ymarfer Integredig adnabyddedig rhyngwladol.
tsa

Gwasanaeth Achrededig

Rydym yn falch o’n Fframwaith Safonau Ansawdd TSA a gwaith i sicrhau ein bod yn cadw’r safon diwydiant pwysig hwn ar gyfer Gwasanaethau Gofal a Alluogir drwy Dechnoleg.
tec

Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus ac wedi sefydlu System Rheoli o Ansawdd sydd wedi’i achredu yn unol â’r safon Ewropeaidd genedlaethol ISO 9001:2015 a fabwysiadwyd. Mae’r achrediad yn arddangos ein gallu i ddarparu’n barhaus y gwasanaethau o ansawdd mae ein cwsmeriaid eisiau a’i angen.
iso

end content