Uwchraddio Platfform Trin Galwadau Galw Gofal i Enovation UMO
Rydym yn falch i rannu mae Galw Gofal wedi uwchraddio ein platfform trin galwadau i lwyfan Enovation UMO, gyda'r system newydd wedi fynd yn fyw ar 17 Medi 2025. Mae'r uwchraddiad hwn yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen yn y ffordd rydym yn cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth. Mae platfform Enovation UMO yn system fodern, hyblyg a fydd yn gwella ein gallu i ymateb yn effeithlon ac yn ddibynadwy i alwadau, gan gynnig gwell ymarferoldeb i'n gweithredwyr a mwy o wydnwch ar draws ein gwasanaethau. Fel rhan o'r prosiect, ydym hefyd wedi uwchraddio ein systemau Teleffoni i blatfform AVAYA ar y cyd â gwasanaethau Maintel Communications.
Mae'r prosiect hwn wedi cael ei gyflawni gyda chefnogaeth werthfawr Perfformiad a Gwelliant y GIG - tîm Trawsnewid Gwerth (TEC Cymru gynt).