Byddwch yn ymwybodol o e-byst a galwadau ffôn Teleofal twyllodrus
Rydym yn ymwybodol y gallai defnyddwyr gwasanaeth Teleofal ar draws y wlad gael eu targedu gan sgamwyr sy’n ffonio neu’n e-bostio pobl hŷn a phobl ddiamddiffyn ac yn gofyn iddynt am eu manylion personol, eu manylion banc, neu am daliad ar gyfer dyfais neu wasanaeth Teleofal newydd.
Ni fydd Galw Gofal na darparwr Teleofal eich cyngor lleol byth yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy neges e-bost i ofyn am eich manylion personol, eich manylion banc neu unrhyw arian felly peidiwch byth â darparu’r manylion hyn dros y ffôn a pheidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen e-bost sy’n gofyn i chi wneud hyn. Os ydych yn amau unrhyw weithgareddau twyllodrus, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch darparwr Teleofal cyn gynted â phosibl, a bydd yn eich cynghori ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.