Galw Gofal yn Croesawu Cyngor Wrecsam fel Partner
Rydym yn falch o gyhoeddi’r newyddion diweddaraf ynglŷn â datblygiad parhaus partneriaeth Galw Gofal.
O 3 Rhagfyr 2025, bydd Cyngor Wrecsam yn ymuno â phartneriaeth Galw Gofal yn ffurfiol. Daw hyn yn dilyn integreiddiad llwyddiannus Cyngor Sir Ddinbych yn gynharach yn 2025, gan greu partneriaeth pum ffordd gref gyda Chonwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae ychwanegu Cyngor Wrecsam yn nodi cam cadarnhaol arall yn ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gwydn o safon uchel sydd yn canolbwyntio ar y dyfodol. Rydym ni’n credu y bydd cyfranogiad Wrecsam yn gwella ein dull o gyfuno arbenigedd, capasiti ac arloesedd ar draws ein gwasanaethau monitro galwadau Teleofal, Y Tu Allan i Oriau, a Gweithwyr sy'n Gweithio ar eu Pen eu Hunain - a bydd hyn o fudd i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth a chleientiaid a gomisiynir.