Galw Gofal yn Croesawu Cyngor Sir Ddinbych fel Partner
Mae’n bleser gennym ni rannu bod Cyngor Sir Ddinbych, ers 1 Medi 2025, wedi dod yn bartner llawn i Galw Gofal, gan ymuno â’n partneriaid presennol sef Cyngor Conwy, Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn. Mae'r newid hwn yn cryfhau dyfodol Galw Gofal a'r gwasanaeth yr ydym ni’n ei ddarparu ledled Cymru. Mae aelod o dîm arweinyddiaeth Sir Ddinbych hefyd wedi ymuno â Bwrdd Galw Gofal, gan ddod â gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr i helpu i lunio ein gwasanaeth. Credwn y bydd y twf hwn mewn partneriaeth yn gwella ein gwaith ac yn dod â manteision ychwanegol i'n cleientiaid i gyd.