top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 0300 123 66 88
 
Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
start content

Technoleg

Mae defnyddio technoleg i gefnogi gofal yn helpu i atal, rheoli a rheoli niwed neu salwch, yn arafu datblygiad anghenion gofal, yn cynnal a hyrwyddo annibyniaeth yn y cartref ac yn y gymuned.  Mae gan dechnolegau megis teleiechyd, teleofal, telefeddygaeth, telehyfforddi ac apiau hunan-ofal y potensial i drawsnewid y ffordd mae pobl yn rheoli eu gofal iechyd eu hunain, yn eu hysgogi i’w reoli mewn ffordd sydd yn iawn iddynt hwy. Sefydlwyd y Gwasanaeth Monitro Galwadau i fonitro technoleg o’r fath.

Beth yw Teleofal?

Mae uned Teleofal wedi cysylltu â rhwydwaith digidol, ynghyd ag amrywiaeth o synwyryddion wedi’u dewis yn ôl eich anghenion.

Gellir galw am gymorth drwy bwyso’r botwm neu drwy rybudd awtomatig gan un o synwyryddion Teleofal yn yr uned sylfaen. Mae’r uned yn cynhyrchu galwad ffôn i’r Ganolfan Monitro Galwadau lle bydd gweithredwr hyfforddedig yn ateb ac yn asesu’r alwad, ac yn cydlynu ymateb drwy ffonio teulu neu ffrindiau, eich meddyg, neu’r gwasanaethau brys os bydd angen.

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i gael rhagor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at wasanaeth Teleofal yn eich ardal.

 

end content