top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 0300 123 66 88
 
Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy Ar gyfer fy sefydliad Dyfeisiau Gweithwyr sy'n Gweithio ar eu Pen eu Hunain sydd ar gael
start content

Dyfeisiau Gweithwyr sy'n Gweithio ar eu Pen eu Hunain sydd ar gael



oyster rio

Oysta Rio

Gellir cario’r ddyfais hon yn eich poced, ar gylch allweddi neu ar gortyn gwddf ac nid oes angen cysylltiad Wi-Fi er mwyn iddo weithio.  Mae gan y ddyfais fotwm SOS a fydd yn hysbysu cyswllt a ddewiswyd yn y cylch gofal neu’r Ganolfan Derbyn Larymau pan fyddwch yn ei bwyso.


oysta-mobile

Dyfais Symudol Oysta Help on Hand


Mae dyfais symudol Oysta Help on Hand yn cynnig y diogelwch diweddaraf i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Mae wedi ei chynllunio ar gyfer y rhai hynny sy’n well ganddynt eitem i’w gwisgo yn hytrach na dyfais clipio ymlaen neu ddyfais grog.

Mae dyfais symudol Help on Hand yn sicrhau bod gennych dawelwch meddwl, hyder a rhyddid, o gwmpas y lle a’r tu mewn i’ch man gwaith.


oysta-ranger

Oysta Ranger+


Mae’r gyfres Oysta Ranger+ yn ffonau clyfar diogelwch GSM/GPS/Wi-Fi pwerus. Maent yn gweithredu ar Android OS, ac felly’n berffaith ar gyfer defnyddio rhaglen “MyTraQ” Oysta, sy’n cefnogi defnydd dan do a thu allan gan ddefnyddio Bluetooth iBeacon a thracio GPS a mwy a rheolaeth Proof of Presence (tagiau NFC).

Mae’r dechnoleg hon yn ddelfrydol ar gyfer safleoedd mawr fel; cyfleusterau cynhyrchu, warysau, safleoedd adeiladu a safleoedd ynni lle mae angen monitro symudiadau staff a chontractwyr.
end content