Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy Ar gyfer fy sefydliad Y tu allan i oriau a pharhad busnes
start content

Y tu allan i oriau a pharhad busnes

Darparu gwasanaethau a chefnogaeth i chi 24/7

Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau cyswllt ffôn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa i gomisiynwyr o fewn y Sector Cyhoeddus a Phreifat . Mae’r gwasanaeth wedi ei anelu i gefnogi pobl sydd angen cymorth gyda gwaith atgyweirio tŷ ar frys, materion amgylcheddol a gwarchod y cyhoedd, cefnogaeth gyda digartrefedd neu gefnogaeth gwasanaethau cymdeithasol brys. Mae’r gwasanaeth wedi’i deilwra i weddu angen cwsmer unigol.

Pan fydd eich busnes yn cau am y dydd, ar benwythnos, gŵyl y banc, diwrnodau hyfforddi neu barhad busnes, byddwn yn derbyn y galwadau gan eich defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau beth bynnag yw eu hanghenion a bod ganddynt rywun i gysylltu 24/7. Yna byddwn yn brysbennu’r alwad i bennu’r lefel gofynnol o gefnogaeth neu gyngor y mae’r galwr eisiau.

Parhad Busnes

Mae Galw Gofal yn darparu parhad busnes effeithiol neu gefnogaeth adfer trychineb i alluogi eich sefydliad i barhau i ddarparu ei wasanaeth i’ch cwsmeriaid os bydd amhariad neu drychineb yn y gwasanaeth. Gallwn ddargyfeirio eich galwadau cwsmeriaid gweithredol yn gyflym i'n canolfan alwadau, a hyd yn oed darparu lle gweithio i chi ar gyfer aelodau allweddol o'ch tîm nes y bydd unrhyw broblemau wedi’u datrys. 

Yna gall ein Canolfan Ymateb i Larymau o'r radd flaenaf eich cefnogi cyhyd ag y bo angen, gan roi tawelwch meddwl y bydd eich cleientiaid yn dal i allu cysylltu.

Sefydlu Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Fel arfer gallwn sefydlu a dechrau darparu'r gwasanaethau hyn i chi mewn ychydig wythnosau gyda strwythur prisio cystadleuol.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni yma.

end content