Dyfeisiau Gweithwyr sy'n Gweithio ar eu Pen eu Hunain sydd ar gael
oyster rio
Oysta Rio
Gellir cario’r ddyfais hon yn eich poced, ar gylch allweddi neu ar gortyn gwddf ac nid oes angen cysylltiad Wi-Fi er mwyn iddo weithio. Mae gan y ddyfais fotwm SOS a fydd yn hysbysu cyswllt a ddewiswyd yn y cylch gofal neu’r Ganolfan Derbyn Larymau pan fyddwch yn ei bwyso.
oysta-mobile
Dyfais Symudol Oysta Help on Hand
Mae dyfais symudol Oysta Help on Hand yn cynnig y diogelwch diweddaraf i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Mae wedi ei chynllunio ar gyfer y rhai hynny sy’n well ganddynt eitem i’w gwisgo yn hytrach na dyfais clipio ymlaen neu ddyfais grog.
Mae dyfais symudol Help on Hand yn sicrhau bod gennych dawelwch meddwl, hyder a rhyddid, o gwmpas y lle a’r tu mewn i’ch man gwaith.
oysta-ranger
Oysta Ranger+
Mae’r gyfres Oysta Ranger+ yn ffonau clyfar diogelwch GSM/GPS/Wi-Fi pwerus. Maent yn gweithredu ar Android OS, ac felly’n berffaith ar gyfer defnyddio rhaglen “MyTraQ” Oysta, sy’n cefnogi defnydd dan do a thu allan gan ddefnyddio Bluetooth iBeacon a thracio GPS a mwy a rheolaeth Proof of Presence (tagiau NFC).
Mae’r dechnoleg hon yn ddelfrydol ar gyfer safleoedd mawr fel; cyfleusterau cynhyrchu, warysau, safleoedd adeiladu a safleoedd ynni lle mae angen monitro symudiadau staff a chontractwyr.