Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy Ar gyfer fy sefydliad Gweithio ar eich pen eich hun
start content

Gweithio ar eich pen eich hun

Eich cefnogi chi i gadw gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yn iach a diogel.


Gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yw rhai sydd yn gweithio heb oruchwyliaeth agos ac uniongyrchol. 

Mae cyflogwyr yn gyfrifol am iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr yn y gwaith. Mae’r gyfraith yn gorfodi cyflogwyr i ystyried yn ofalus, ac yna’n delio gydag, unrhyw beryglon iechyd a diogelwch ar gyfer pobl sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.

Mae Galw Gofal yn cynnig gwasanaeth monitro galwadau gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain 24/7 sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i gefnogi’r gweithwyr hyn yn y gweithle neu allan yn y gymuned. Darperir ein gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ac rydym yn sicrhau cefnogaeth ar gyfer ieithoedd eraill neu’r rhai sydd â namau. Rydym yn darparu gwasanaeth cenedlaethol ac ar gael i’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae Galw Gofal yn cynnig datrysiadau gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain i gefnogi eich gweithwyr drwy ddefnyddio eich ffonau symudol chi am gyn lleied â 90c yr wythnos neu drwy ddyfeisiau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain y gallwch eu prynu neu eu prydlesu o £16 y mis Rydym yn cydymffurfio â safonau’r diwydiant BS 8484, BS 8591, BS 7858 ac ISO 9001.

Gallwn ddarparu gwasanaeth wedi’i reoli’n llawn, sy’n rhoi dyfais Oysta i chi i’ch cynorthwyo i ddiogelu eich gweithlu 24/7. Mae'n cael ei fonitro gan ein staff cyfeillgar, hollol gymwys, a bydd gan Galw Gofal fynediad uniongyrchol at eich manylion a'ch lleoliad i gynnig cymorth a chefnogaeth pryd bynnag a lle bynnag y bo'i angen.

Byddwn yn gweithio gyda chi i deilwra’r gwasanaeth gweithio ar eich pen eich hun, gan ddewis dyfais ac ymateb sy’n gweddu eich angen a darparu hyfforddiant llawn am ddim.



end content