Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy I mi a fy nheulu Canllawiau ar Offer Teleofal
start content

Canllawiau ar Offer Teleofal

Rhwng rŵan a Rhagfyr 2025 bydd yr holl unedau teleofal yn cael eu gosod a'u huwchraddio i unedau digidol, gan roi gwasanaeth o ansawdd gwell i chi.

Pecyn Sylfaenol

Gall unrhyw un hunan-atgyfeirio ar gyfer pecyn sylfaenol.

lifelineUned Life Line VI

Nodiadau Atgoffa / Recordiad Llafar – fel nodiadau atgoffa am feddyginiaeth.

Gellir gosod gwasanaeth monitro tymheredd – ond rhaid gofyn amdano.

smoke-alarm.fwSynhwyrydd mwg 

Rhaid cael un ar gyfer pob llawr yn yr eiddo.

Mae angen caniatâd landlordiaid os nad yw eiddo mewn perchnogaeth breifat. 

AMY-pendantCadwyn MyAmie 

Gellir ei gwisgo o amgylch yr arddwrn neu’r gwddf. 
 
Os yw medrusrwydd yr unigolyn yn wael, yna gellir gofyn am fotwm hawdd ei wasgu.

key-safeSaff Allweddi

Mae ambell i saff allweddi wedi'u gosod y tu allan i'r eiddo i ganiatáu mynediad brys. Dim ond Galw Gofal sy’n cadw cofnod o’r rhif. 
 
Mae angen caniatâd landlordiaid os nad yw eiddo mewn perchnogaeth breifat.

 

Synwyryddion Ychwanegol

bed-sensorSynhwyrydd Gwely

Mae dau fath - dros y fatres neu dan y fatres. Ni ellir eu defnyddio ar welyau trydan neu broffil.
 
Gellir gosod amseryddion ar welyau – e.e. pan nad yw’r unigolyn wedi dychwelyd i’r gwely o fewn 15 munud. Rhaid i’r sawl sy’n atgyfeirio wneud cais am hyn. 

door-sensorSynhwyrydd drws:  

Gall fod yn synhwyrydd wedi'i amseru neu wedi’i osod â llaw gyda switsh 'ymlaen / i ffwrdd'. Gellir ei gysylltu â Lifeline neu Care Assist.

Rhaid i'r sawl sy’n atgyfeirio ofyn am PIR os oes angen amser absennol. Nodwch y math o ddrws y dylid ei osod arno wrth atgyfeirio. 

pir-sensorSynhwyrydd PIR

Rhaid gwneud cais amdano os oes angen amser absennol ar gyfer synhwyrydd drws – e.e. dim symudiad o fewn 10 munud ar ôl agor drws = gwneud galwad.
 
Gellir ei ddefnyddio fel synhwyrydd rhithwir, synhwyrydd anweithgarwch, larwm tresmaswyr. 

chair-sensorSynhwyrydd Cadair

Ni ellir ei ddefnyddio ar gadeiriau trydan gorwedd a chodi. Gellir gosod amseryddion – e.e. pan nad yw’r unigolyn wedi dychwelyd i’r gadair o fewn 15 munud.

Rhaid i’r sawl sy’n atgyfeirio wneud cais am hyn.


flood-detectorrSynhwyrydd Llifogydd 

Yn wych ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o adael tapiau’n rhedeg.

Gellir ei osod ar y llawr wrth ymyl sinc neu fath.

Rhaid i weithiwr proffesiynol ofyn am synwyryddion ychwanegol.

carbon-monoxide-alarm
Synhwyrydd Co2

Mae angen un ar gyfer pob ystafell sydd â theclyn nwy e.e. boeler, tân nwy, popty nwy a thân coed.

temp-extreme-sensor
Synhwyrydd Tymheredd Eithafol


Yn monitro ar gyfer tymheredd uchel ac isel iawn a chynnydd cyflym mewn tymheredd. Caiff ei osod ar y nenfwd fel arfer.

careassistrCare Assist

- Gall gefnogi hyd at 86 o wahanol synwyryddion
- Mae ganddo ystod o hyd at 200m
- Rhaid ei wefru am 2 awr
- Yn ddelfrydol ar gyfer gofalwyr / rhieni
- Gellir cysylltu pob synhwyrydd â galwr 

vibbyVibby

- Yn canfod codymau yn awtomatig ac yn gweithredu fel cadwyn arferol
- Dim ond codwm mawr y bydd yn ei ganfod
- 100% gwrth-ddŵr - gellir ei gwisgo yn y gawod
- Mae ganddo fotwm canslo (botwm llwyd bychan)
- Gellir ei ganslo drwy ddal cledr eich llaw dros yr wyneb am 10 eiliad




Offer a Aseswyd yn Arbenigol  

Rhaid i'r holl offer a restrir isod gael eu hasesu gan Therapydd  Galwedigaethol / Therapydd Galwedigaethol Cynorthwyol Teleofal.  Dylai gweithwyr proffesiynol gyfeirio at Teleofal am ymweliad ar y cyd.

Dyfais GPS ôl troed

  • Olrhain GPS a rhybuddion signal isel
  • Cyfathrebu llais dwy ffordd
  • Rhybuddion GEO fence - drwy neges destun
  • SIM crwydro llawn - i ddefnyddio'r signal symudol cryfaf yn yr ardal honno.
  • Cadwyn i’w gwisgo - cylch allweddi neu gortyn gwddf
  • Gellir ei gysylltu â Galw Gofal
  • Rhybuddion batri isel
  • Gwasanaeth olrhain gwefan byw ar gael.

 

Dyfais Buddi GPS 
Mae gan Buddi yr un nodweddion â'r ôl troed ond mae'n cynnwys dau ddarn o offer. Breichled a chlip. Y freichled yw'r synhwyrydd codwm ac mae'r clip yn gweithredu fel y 'ffôn' a’r GPS.

Canary
Defnyddir Canary fel offeryn asesu i fonitro symudiadau unigolion. Caiff y system ei gosod gyda synwyryddion bach, a chesglir data ar y wefan i bennu patrwm symudiad unigolion. Mae Canary yn ddelfrydol ar gyfer asesu pecyn gofal unigolion heb fod yn ymwthiol nac yn amddifadu eu preifatrwydd.

Synwyryddion Epilepsi
Mae Teleofal yn darparu ystod o synwyryddion Alert It Epilepsy i weddu i'r math o drawiadau a gaiff yr unigolyn. Dilynwch y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth:- https://alert-it.co.uk/product-selector/

end content