Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy I mi a fy nheulu Gwasanaethau Ychwanegol ar eich cyfer chi
start content

Gwasanaethau Ychwanegol ar eich cyfer chi

“Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi eich annibyniaeth a’ch lles

Gwasanaeth galwadau gwirio ffonau, galw rhagweithiol 

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth gwirio ffonau, sy'n cynnwys galwad ffôn dyddiol ar amser cytûn i wirio eich lles, a thrwy hynny eich cefnogi i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eich cartref eich hun.

Mae’r gwasanaeth ar gael i drigolion yn y sector cyhoeddus neu breifat, naill ai mewn tai gwarchod, cyfleusterau gofal ychwanegol neu mewn anheddau preifat. Nid oes rhaid i chi fod yn ddefnyddiwr gwasanaeth Teleofal i dderbyn y gwasanaeth hwn.

Mae'r gwasanaeth galwadau gwirio ffonau yn rhoi sicrwydd o gyn lleied â 0.70c y dydd a gellir ei deilwra i weddu i anghenion unigol.

Sut mae’n gweithio? 

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi un ffurflen i ddweud wrthym pryd yr hoffech i ni eich ffonio i wirio eich lles - yn ystod y dydd neu gyda'r nos, a oes angen eich atgoffa i gymryd unrhyw feddyginiaeth a phwy yr hoffech i ni eu ffonio os oes angen unrhyw gymorth arnoch.   Mae ein gweithredwyr wrth law i siarad â chi pryd bynnag y dymunwch.

Sut ydw i'n cael mynediad i'r gwasanaeth?

I wneud cais am wasanaeth cwblhewch y Ffurflen Ymholiad. Fel arall, gallwch ffonio Galw Gofal ar 0300 123 66 88 dydd neu nos.

end content