Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy I mi a fy nheulu Ein Gwasanaethau ar eich cyfer Chi
start content

Ein Gwasanaethau ar eich cyfer Chi

Rydym yn darparu gwasanaeth monitro galwadau Teleofal 24/7 i unigolion yn eu cartrefi eu hunain, gan alluogi i bobl gynnal eu hannibyniaeth a'u lles yn ddiogel. Darperir ein gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ac rydym yn sicrhau cefnogaeth ar gyfer ieithoedd eraill neu’r rhai sydd â namau. Rydym yn darparu gwasanaeth cenedlaethol ac ar gael i’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Beth yw Teleofal?

Gall teleofal neu dechnoleg gynorthwyol roi tawelwch meddwl bod rhywun wrth law os oes angen cymorth arnoch neu os oes argyfwng.

Mae technoleg o'n cwmpas yn ein cartrefi, ceir, gweithleoedd, siopau ac arnom ni yn aml hefyd, naill ai'n cael ei gario i gyfathrebu ag anwyliaid, i drefnu ein diwrnod neu i gyfrif faint o gamau rydyn ni wedi'u gwneud. Mae mwy o bobl yn defnyddio technoleg Teleofal yn y cartref i gefnogi eu hunain i gadw’n ddiogel ac annibynnol. 

Gellir gosod offer teleofal yn y cartref gyda synwyryddion sydd wedi'u cynllunio i fonitro a rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â byw'n annibynnol.

Sut mae Teleofal yn gweithio? 

telecare


Dim ond gwasgu botwm sydd angen ei wneud am gymorth


Mae’r system Teleofal sylfaenol yn hawdd i’w osod. Mae'n cynnwys uned sylfaen wedi'i chysylltu â'ch ffôn a sbardun radio cludadwy y gellir ei wisgo o amgylch eich gwddf neu ei strapio ar eich arddwrn. Bydd yr uned yn cael ei rhaglennu ymlaen llaw gyda'n manylion cyswllt ni.  Mae sawl model o unedau sylfaen Teleofal ar gael, gan gynnwys unedau Teleofal analog, digidol neu symudol.
  1. Pwyswch y botwm ar y ddyfais o amgylch eich gwddf neu'r botwm coch ar yr uned sylfaenol
  2. Bydd yr uned yn gwneud galwad ffôn i'r Ganolfan Monitro Galwadau

Yna byddant yn cydlynu'r cymorth sydd ei angen arnoch drwy ffonio'ch cysylltiadau penodol [teulu, ffrindiau, eich meddyg, neu'r gwasanaethau brys] yn ôl yr angen.

Peidiwch â phoeni os na allwch siarad â ni - byddwn ni’n gwybod mai chi fydd yno a byddwn yn sicrhau bod cymorth ar y ffordd!

Mae tîm Galw Gofal yma bob awr o'r dydd, 7 diwrnod yr wythnos a thrwy gydol y flwyddyn i roi tawelwch meddwl i chi a chymorth pan fyddwch ei angen.

 

end content