Swyddog Ymateb i Alwadau a Chefnogi
Cyfeirnod y Swydd: REQ005126
Gwasanaeth: Gwasanaeth Oedolion a Chymunedol Integredig
Adran: Lles Cymunedol, Galw Gofal
Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
Cyflog: G04 £22,777 – £24,054 y flwyddyn ac ychwanegiadau ar gyfer gwaith shifft
Oriau a Sail: Hyd at 37 awr yr wythnos (Llawn amser neu ran amser) Parhaol
Sgiliau Cymraeg: Dymunol
Mae gallu cyfathrebu’n Gymraeg er mwyn ymdrin â galwadau â defnyddwyr gwasanaeth a sefydlu pam eu bod yn ffonio, yn ogystal â deall negeseuon e-bost Cymraeg, yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Gallwn gefnogi’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg neu rai sy’n dysgu gyda’u datblygiad i ddysgu'r Gymraeg.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gynnig cyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’n cymuned. Gall pobl anabl ddewis gwneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais er mwyn cael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os na fyddwch chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer i gael cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Swydd
Oherwydd ein llwyddiant parhaus ac estyniadau i gontractau, rydym yn ehangu ein tîm i ddarparu gwasanaeth hanfodol monitro galwadau 24 awr sy’n chwarae rhan hollbwysig i ddarparu cymorth a chefnogaeth amhrisiadwy i unigolion hŷn a diamddiffyn.
Byddwch yn helpu pobl yn y gymuned i aros yn annibynnol drwy ddarparu cefnogaeth a chymorth proffesiynol bob awr o’r dydd. Byddwch hefyd yn cefnogi ein gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain drwy ddarparu cymorth brys y tu allan i oriau swyddfa i’r cyhoedd os bydd angen atgyweirio tai neu wasanaethau hanfodol eraill. Mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol i sicrhau bod gan y gymuned fynediad ar unwaith at gefnogaeth hanfodol pan fo angen.
Bydd gennych ran annatod mewn cefnogi unigolion diamddiffyn wrth gynnal safonau diogelwch a lles uchel iawn i’n cleientiaid ynghyd â chadw at reoliadau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Bydd arnoch angen agwedd bositif a sgiliau cyfathrebu rhagorol. Rydym yn gwerthfawrogi unigolion sy’n gallu cymell eu hunain ac sy’n barod i fynd gam ymhellach i sicrhau bodlonrwydd cwsmeriaid.
Rydym yn deall bod ein gwasanaeth yn hanfodol i fywyd a lles ein defnyddwyr yn aml iawn, felly rydym yn cymryd hyfforddiant a chefnogaeth o ddifri. Pan fyddwch yn ymuno â’n tîm, gallwn sicrhau eich bod yn cael hyfforddiant a chefnogaeth lawn, yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu – bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun fetio yn unol â BS7858 a bydd gofyn cael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Os ydych yn dosturiol ac os oes gennych awydd gwirioneddol i helpu pobl, yna mae swydd gyda ni yn berffaith i chi. Ymunwch â’n tîm heddiw i fod yn rhan o sefydliad sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i Safonau’r Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd.
Manteision gweithio i Gonwy
Cydbwysedd gwaith a bywyd
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd. Bydd ein gweithwyr yn cael 8 gŵyl banc y flwyddyn a’r hawl i’r gwyliau canlynol:
- Ar ôl penodi, 26 diwrnod
- Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus, 31 diwrnod
- Ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth parhaus, 33 diwrnod
Bydd gwyliau blynyddol a gwyliau banc gweithwyr rhan-amser yn cael eu cyfrifo ar sail pro rata.
Rydym hefyd yn ystyried amrywiaeth o opsiynau gweithio'n hyblyg, yn cynnwys:
- Rhannu swydd
- Gweithio llai o oriau a gweithio’n rhan amser
- Contractau tymor ysgol yn unig
- Oriau Cywasgedig
- Cynllun Oriau Hyblyg
- Polisi sy’n Ystyriol o Deuluoedd a Pholisi Seibiant Arbennig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Caiff pob gweithiwr ei gynnwys yn awtomatig yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: https://www.cronfabensiwngwynedd.cymru/cy/DarparAelodau/Rhesymau-i-Ymuno.aspx
Iechyd a Lles
Mae eich iechyd a’ch lles yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant lle cefnogir iechyd a lles ein gweithwyr. Byddwch yn cael:
- Tâl salwch galwedigaethol
- Mynediad am ddim, ddydd a nos, i raglen cymorth i weithwyr sy’n darparu cyngor a chymorth
- Polisi Rheoli Presenoldeb cynhwysfawr i gefnogi a helpu unigolion yn y gwaith, pan fyddant yn sâl ac wrth ddychwelyd i’r gwaith.
Gwobrau Conwy a’r Cerdyn Vectis
Mae Gwobrau Conwy yn borth pob peth ar gyfer holl fuddion staff Conwy, gan gynnwys Cynllun Aberthu Cyflog i brynu Car drwy Tusker, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gwobrau am wasanaeth hir, gostyngiadau a llawer mwy. Gallwch arbed arian i gael gostyngiadau ar-lein, gostyngiadau ar docynnau anrheg ac arian yn ôl a gostyngiadau ar nwyddau mewn siopau gyda’ch cerdyn Vectis. Mae hyn yn cynnwys gostyngiadau yn siopau'r stryd fawr, mewn sinemâu a bwytai a gostyngiadau ar foduro, yswiriant, gwestai a gwyliau.