Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Title

Text
cy Amdanom Ni Cwrdd â'r Tîm
start content

Cwrdd â'r Tîm

Nick, Rheolwr Strategol Rhanbarthol

“Mae’n fraint arwain gwasanaeth sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i unigolion, teuluoedd a busnesau ar draws y sir gyfan.  Mae ein tîm yn hynod o broffesiynol ac wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth blaengar, gan sicrhau eu bod yn darparu ymateb cyflym a gwasanaeth wedi’i deilwra pan fo’i angen, waeth beth fo’r sefyllfa. Os ydych yn chwilio am wasanaeth teleofal, gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa neu wasanaeth monitro gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, gallwn fodloni eich holl anghenion a sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn”.

Helen

“Mae bod yn rhan o dîm proffesiynol sy’n darparu gwasanaeth cymorth brys amhrisiadwy yn rhoi teimlad o foddhad aruthrol a bod yn rhan o gymuned leol ac ehangach”.

Cheryl

“Rwyf wedi bod yn rhan o Teleofal ers dros 30 mlynedd, ac rwyf yn falch o’r gwasanaeth mae’r tîm yn ei ddarparu, gan wybod fod y sicrwydd, cysur a chymorth rydym yn ei roi yn ddyddiol i bobl ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, yn gwneud gwahaniaeth iddynt. Mae cael Teleofal yn galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn hirach yn eu hamgylchedd cyfarwydd eu hunain”.

Meira

“Rwyf wedi gweithio i Galw Gofal ers 29 mlynedd, mae’n swydd ddiddorol ac rydw i’n teimlo fy mod yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r cleientiaid rydym yn gofalu amdanynt. Mae’n bwysig oherwydd ei fod yn eu galluogi i aros yn eu cartrefi a’u cynefin eu hunain. Mae hyn yn golygu cymaint i lawer”.

Amy

“Wedi gweithio i Galw Gofal am 15 mlynedd, rwyf wedi gweld llawer o newidiadau a faint o ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n dibynnu arnom. Mae’n swydd sy’n rhoi llawer iawn o foddhad ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae Galw Gofal yn wasanaeth sy’n rhoi annibyniaeth i’w ddefnyddwyr i aros gartref cyhyd ag y gallant, maent yn parhau’n hyderus yn eu cartref gan wybod ein bod ni ar ben arall y botwm. Rwyf wir yn credu mai ni yw’r 4ydd gwasanaeth brys. Mae’r gwaith a wnawn yn rhoi annibyniaeth i bobl fod gartref, mae’n rhoi sicrwydd i deuluoedd bod gan eu hanwyliaid rywun i alw arnynt os bydd arnynt angen cymorth neu ddim ond sgwrs gyfeillgar”.

Daniel

“Rwy’n mwynhau gweithio i Galw Gofal gan fod gennym dîm gwych, ac mae’n fraint bod yn rhan ohono. Mae’r gwasanaeth mae Galw Gofal yn ei ddarparu yn bwysig i mi’n bersonol gan ei fod yn rhoi cyfle i mi roi rhywbeth bach yn ôl i’r gymuned drwy helpu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd y gall pobl ddibynnu arno. Mae’r gwaith mae Galw Gofal yn ei wneud ddydd a nos yn galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn hirach ac yn rhoi cefnogaeth i bobl na allai barhau i fyw yn eu cartrefi fel arall”. 

Ceri

“Rwy’n mwynhau gweithio yn Galw Gofal gan ei fod yn rhoi boddhad i mi wybod fy mod wedi helpu rhywun sydd ei angen, mae’r tîm yn gefnogol iawn o’r naill a’r llall. Mae’r hyblygrwydd gyda fy shifftiau ac oriau sy’n gyfeillgar i deuluoedd yn rhoi amser i mi fwynhau cydbwysedd hapus rhwng gwaith a bywyd. Mae gweithio i Galw Gofal a’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn bwysig i mi gan ei fod yn gwneud i mi deimlo’n dda i wybod fy mod wedi helpu rhywun sydd ei angen. Rwy’n teimlo ein bod yn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, fydd yn helpu â llwyddiant hirdymor a gwasanaeth sy’n tyfu’n barhaus. Mae Galw Gofal yn helpu ac yn cefnogi pobl ddiamddiffyn i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain mor hir â phosibl, ac yn rhoi tawelwch meddwl iddynt wybod bod cymorth ar ben arall y ffôn bob awr o’r dydd a’r nos”. 

Andy

Pam ydych chi’n mwynhau gweithio i Galw Gofal?

“Gall gweithio i Galw Gofal fod yn heriol ar brydiau, ond mae’r canlyniadau’n werth yr ymdrech, yn enwedig pan fydd ein gwaith yn arwain at achub bywyd. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ystod o garfannau o gwsmeriaid, sy’n aml yn galw am sgiliau datrys problemau mewn amser cyfyngedig ac mae’n ein cadw ar flaenau ein traed”. 

Pam bod y gwasanaeth mae Galw Gofal yn ei ddarparu’n bwysig i chi?

“Rydym i gyd eisiau teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi ac i wybod bod cefnogaeth ar gael pan fyddwn ei hangen.  Gallai unrhyw un ohonom fod angen gwasanaethau Galw Gofal yn y dyfodol, felly drwy werthfawrogi a chefnogi eraill rwan, rydym yn ein gwerthfawrogi a’n cefnogi ein hunain a’n hanwyliaid yn y dyfodol. Dyma un rheswm pan fy mod, fel aelod o dîm Galw Gofal, wedi ymrwymo i gyflawni a chynnal gwasanaethau cwsmeriaid o safon uchel”.

Sut mae’r gwaith rydych yn ei wneud yn helpu pobl yn ein cymunedau?

“Mae ein gwaith Careline yn Galw Gofal yn rhoi sicrwydd a chefnogaeth i unigolion a’u teuluoedd i reoli risg wrth gynnal ansawdd bywyd da. Mae ein gwasanaethau Careline yn bwysig i helpu i leihau unrhyw deimladau o unigrwydd neu arwahanrwydd, wrth rymuso pobl ddiamddiffyn i barhau i fyw yn y cymunedau maent yn eu hadnabod, eu caru a theimlo’n gyfforddus ynddynt. 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content