Gwasanaeth Monitro Galwadau Rhanbarthol Gogledd Cymru |
Cydweithio a chysylltu i wella ansawdd bywyd drwy hyrwyddo a chefnogi annibyniaeth:
|
Mae Galw Gofal yn darparu gwasanaeth monitro galwadau 24/7 dwyieithog gyda’r system ateb galwadau mwyaf diweddar i alluogi’r defnydd o ystod eang o dechnoleg cynorthwyol i gefnogi darpariaeth gofal iechyd a chymdeithasol.
Ein nod yw helpu i warchod pobl fregus yn eu cartrefi eu hunain neu yn y gweithle trwy gynnig gwasanaeth monitro galwadau hygyrch sy'n hyrwyddo diogelwch, sicrwydd ac annibyniaeth. |
 |
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o ddwy safle yn Llangefni, Ynys Môn a Bae Colwyn, Conwy. Mae'r ddwy safle yn cael eu staffio yn llawn. Gallant weithio ar yr un pryd neu’n annibynnol o’i gilydd gan sicrhau parhad busnes cadarn o fewn yr ardal.
 |
Mae Galw Gofal yn wasanaeth archrededig. Cod Ymarfer Integredig 2013 Cymdeithas Gwasanaethau Teleofal ar gyfer monitro galwadau Teleofal a monitro Teleiechyd. |
 |
Safon Brydeinig ISO 9001: 2008 ar gyfer System Rheoli Ansawdd. |
|
|
|
|
|
|